gwybodaeth am yr ardal
Mae etholaeth Gorllewin Clwyd yn ymestyn dros rannau helaeth o Gonwy a rhannau o Sir Ddinbych. Mae'n cynnwys rhai o’r golygfeydd harddaf yng Ngogledd Cymru. Mae gan yr etholaeth ddaearyddiaeth amrywiol yn ymestyn i’r de o drefi lan môr Bae Colwyn ac Abergele, trefi sy’n gyrchfannau gwyliau poblogaidd. Mae’r arfordir yn eithaf trefol ac yn denu llawer o bobl i fyw yno. Mae’r etholaeth hefyd yn ymestyn i ardaloedd mynyddig fel Rhuthun a Choedwig Clocaenog ac yn cynnwys llawer o drefi a phentrefi gwledig.
Yn hanesyddol, roedd yr ardal yn ganolbwynt i lawer o ddigwyddiadau pwysig yng nghyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Roedd Reynold de Grey, un o brif elynion Owain Glyndŵr, wedi meddiannu Rhuthun, tref farchnad hardd ar ochr y bryn yn Nyffryn Clwyd. Ym mis Medi 1400, llwyddodd Glyndŵr a’i ddilynwyr, a elwid yn Blant Owain, i adennill y dref. Hyd heddiw gellir gweld llawer o’r gwaith ailadeiladu a wnaed yn dilyn y dinistr.
Bae Colwyn yw’r dref fwyaf ond un yng Ngogledd Cymru gyda phoblogaeth oddeutu 30,000 ac mae’n dal i dyfu. Mae’r dref yn enwog am ei golygfeydd trawiadol o’r arfordir gyda Choed Pwllcrochan yn gefndir iddi. Daeth y dref yn boblogaidd iawn tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a gellir gweld pensaernïaeth wych o oes Fictoria gan gynnwys y pier a’r Sw Mynydd. Ymhlith rhai o gyn-drigolion enwog Bae Colwyn mae Terry Jones o Monty Python, Timothy Dalton a ymddangosodd mewn dwy ffilm James Bond, a William Roache, sef Ken Barlow yn Coronation Street.
Yng Ngorllewin Clwyd hefyd y mae hen chwedl Gymreig yr Angelystor wedi ei lleoli. Yn ôl pob sôn bydd yr Angelystor yn ymddangos ar Noson Calan Gaeaf ac ar 31 Gorffennaf yn eglwys ganoloesol Llangernyw i ddarllen enwau’r bobl sydd ar fin ymadael â’r byd.
08 September 2007
